Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn ymdrin â phroblemau personél a chyflogaeth. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’. Mae’r Daflen Ffeithiau hon wedi’i hanelu’n bennaf at bobl sy’n cael eu cyflogi gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru , sydd â phroblem sy’n gysylltiedig â’u swydd ac sy’n ystyried cwyno i ni.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn ystyried cwynion am y canlynol:

  • Gweithdrefnau recriwtio; a,
  • Gweithdrefnau penodi.

Mae ein gwaith o edrych ar gwynion sy’n ymwneud â materion cyflogaeth wedi’i gyfyngu i’r ddau faes uchod.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn ymchwilio i gwynion am faterion cyflogaeth megis y canlynol:

  • Trefniadau disgyblu;
  • Trefniadau cwyno;
  • Penderfyniadau i derfynu swydd, boed hynny drwy ddileu swydd neu ddiswyddo;
  • Cyflog neu fuddiannau ymarferol eraill, megis car cwmni neu fenthyciadau ar gyfer tocynnau tymor;
  • Pensiynau;
  • Tâl salwch a thâl mamolaeth;
  • Y ffordd y mae’r corff yn trin ei staff, megis yr hawl i  absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb tadolaeth;
  • Bwlio yn y gweithle;
  • Problemau iechyd sy’n gysylltiedig â gwaith;
  • Anghytundeb ar gwmpas neu delerau eich swydd;
  • Anghydfodau diwydiannol, megis streiciau neu weithio i reol.

Bydd gan lawer o achwynwyr yr hawl i fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth i geisio datrys eu cwynion.

 

Materion i gadw mewn cof

Er bod cyfyngiad ar y math o gwynion yn ymwneud â materion cyflogaeth a phersonél y gallwn ymchwilio iddynt, gallwn, er hynny, ymchwilio i gwynion a wneir gan gyflogai Cyngor fel defnyddiwr gwasanaeth yn achos gwasanaethau maent yn eu cael gan y Cyngor, er enghraifft, problemau ag addysg, tai neu wasanaethau cymdeithasol. Gellir ymchwilio i’r cwynion hyn yn y ffordd arferol, ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth bod y sawl sy’n cwyno’n cael ei gyflogi gan y Cyngor.

Os ydych yn cael eich cyflogi gan y Cyngor (neu’n aelod ohono) a bod gennych gŵyn yn erbyn y gwasanaethau mae’r cyngor yn eu darparu i chi, dylech ddarllen y Daflen Ffeithiau berthnasol ar gyfer y math hwnnw o gŵyn.

Gallwn ystyried cwynion chwythu’r chwiban yn ymwneud ag aelodau etholedig awdurdodau lleol yng Nghymru. Gweler ein taflen ffeithiau Codau Ymddygiad – Gwybodaeth Gyffredinol am wybodaeth am ein rôl.

Mae gennym y pŵer hefyd i ymgymryd ag ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain am gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Gweler ein tudalen we ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’ ar y tab ‘Amdanom Ni’ am wybodaeth am ein rôl a’n Meini Prawf ar gyfer penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad o’r fath er budd y cyhoedd.

Gwybodaeth bellach

Yn aml bydd materion cyfreithiol cymhleth ynghlwm wrth broblemau cyflogaeth a phersonél a dylech wneud yn siŵr eich bod yn derbyn cyngor priodol.

  • Mae ACAS yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i gyflogwyr a chyflogeion ar bob agwedd ar gysylltiadau yn y gweithle a chyfraith cyflogaeth: https://www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=1461
  • Os ydych yn aelod o Undeb Llafur dylech gysylltu â’r Undeb yn uniongyrchol oherwydd gallai fod mewn sefyllfa i’ch helpu.
  • Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor am ddim. Gallwch ddod o hyd i’ch cangen agosaf yn y llyfr ffôn ac mae’r wefan yn cynnwys adran ar gyngor ar faterion cyflogaeth: https://www.adviceguide.org.uk/wales.html

Bydd llawer o gyfreithwyr yn gallu cynnig cyngor ar broblemau personél a chyflogaeth; fodd bynnag, codir tâl am y cyngor hwn fel arfer.

Rydym yn annibynnol ac amhleidiol; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond, fel arfer, maent yn gwneud hynny bron yn ddieithriad.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru