Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch ceisiadau cynllunio. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Y Cyngor yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei ardal (mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gwneud hyn). Mae awdurdodau cynllunio’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gweithredu ar amrywiol faterion cynllunio. Rhaid iddynt weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn polisi’r awdurdod ei hun. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn yn erbyn awdurdod cynllunio.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu edrych i weld a oedd unrhyw beth o’i le gyda’r ffordd yr aeth y Cyngor ati i benderfynu cais ar gyfer datblygiad cyfagos. Gall hyn gynnwys:

  • methu rhoi gwybod i chi am gais a allai effeithio arnoch, fel nad oeddech yn gallu gwrthwynebu;
  • hysbysu cyrff eraill y dylai fod wedi rhoi gwybod iddynt;
  • rhoi gwybod i chi am y cynlluniau diwygiedig;
  • rhoi’r rhesymau dros ei benderfyniad i gymeradwyo cais;
  • ystyried eich gwrthwynebiadau (nid yw hyn yr un fath â chytuno gyda’ch gwrthwynebiadau);
  • rhoi sylw i ystyriaethau cynllunio perthnasol.
  • cyngor cynllunio anghywir / camarweiniol / anghyflawn a roddwyd cyn i chi wneud cais, a gallwch ddangos bod hyn wedi achosi problemau sylweddol ichi.
  • nid oedd gan y Cyngor system yn ei lle i sicrhau bod y cyngor a roddodd wedi’i gofnodi’n briodol.
  • methodd y Cyngor ag egluro’n iawn bod ei gyngor yn anffurfiol ac nad oedd yn ymrwymo’r Cyngor i wneud penderfyniad neilltuol yn y dyfodol;
  • methodd y Cyngor â dilyn y gweithdrefnau priodol na thalu sylw i’r ystyriaethau cynllunio perthnasol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu edrych ar:

  • penderfyniad cynllunio a wnaed yn briodol ac nid oes unrhyw dystiolaeth o fai gweinyddol.
  • cwynion lle mae neu lle oedd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd hyn ond yn berthnasol lle oedd oedi cyn penderfynu cais neu lle gwrthodwyd cais.
  • cwyn ynghylch cais hyd nes y gwneir penderfyniad a gallwn ystyried yr effaith arnoch.

Rydym yn annhebygol o edrych ar eich cwyn os yw’n ymwneud â materion preifat rhyngoch chi a’ch cymydog – e.e. anghydfod ynghylch terfynau.

 

Materion i gadw mewn cof

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwn yn gallu mynd yn groes i’r penderfyniad na dymchwel y datblygiad hyd yn oed os yw’n cael effaith arnoch, ond mi fydd yn ystyried ffyrdd eraill o leihau unrhyw effaith arnoch.

 

Gwybodaeth bellach

Gall Cymorth Cynllunio Cymru roi gwybodaeth ddefnyddiol am faterion cynllunio. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 029 2062 5000 neu drwy fynd i’r we yn www.planningaidwales.org.uk

Mae gwybodaeth am gynllunio hefyd ar gael yn https://www.planningportal.co.uk/wales_en/

Mae’n bosibl y bydd gwefan y Cyngor ei hun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am rai materion cynllunio.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen