Amddiffyn Plant
Cyflwyniad
Mae gan pob awdurdod lleol ddyletswydd i ymchwilio lle credir bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol. Fel arfer, dylech gwyno yn gyntaf i’r awdurdod lleol o dan weithdrefn gwyno dau cam Gwasanaethau Plant. Ond gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol os yw’n ymddangos bod yr awdurdod lleol yn llusgo’i draed wrth ddelio â’ch cwyn.
Yr hyn gallwn ei wneud
Gallwn edrych ar ymateb yr awdurdod lleol i bryderon bod plentyn mewn perygl. Dyma rai o’r materion y gallwn edrych arnynt:
- mae rhywbeth o’i le gyda’r ffordd y mae’r Cyngor wedi ymchwilio i bryderon ynghylch amddiffyn plant a allai fod wedi effeithio arnoch chi’n Er enghraifft:
- methu ymateb neu oedi yn ymateb i adroddiadau bod plentyn mewn perygl.
- ymchwilio’n anfoddhaol i’r achos a methu dilyn y gweithdrefnau a chanllawiau priodol;
- methu cyfathrebu â’r pobl berthnasol a chydweithredu ag asiantaethau eraill;
- adroddiadau anfoddhaol neu anghywir (ar wahân i adroddiadau a baratoir ar gyfer y llys).
- Diffygion gyda rheoli’r gwaith o gynllunio dyfodol plentyn yn dilyn cynhadledd achos amddiffyn Gallai’r diffygion hyn gynnwys:
- methiant i fwrw ymlaen ag argymhellion cynhadledd amddiffyn plant;
- dim cynllun boddhaol ar gyfer y plentyn, neu fethiant i roi cynllun o’r fath ar waith.
Mewn rhai achosion gallwn gwestiynu penderfyniadau a wnaed gan weithwyr cymdeithasol.
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni allwn:
- edrych ar benderfyniad gan awdurdod lleol i ddwyn achos llys;
- edrych ar faterion y dylai’r llys fod wedi edrych arnynt. Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad achos llys, ni allwn newid y penderfyniad hwnnw a dylech ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol. Mewn rhai achosion, byddwn efallai’n gallu edrych ar y mesurau a gymrodd yr awdurdod lleol cyn dwyn achos llys ac ar y gwasanaethau iddo eu darparu ar ôl i’r achos llys ddod i ben.
Materion i gadw mewn cof
Mewn achosion amddiffyn plant, lles y plentyn yw’r brif fater a gallai hyn fod yn anghyson â buddiannau’r oedolyn sy’n cwyno.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â phenderfyniad gan Gynhadledd Amddiffyn Plant, ni allwn edrych ar gŵyn oherwydd gallai nifer o wahanol asiantaethau fod yn cyfrannu at y broses amddiffyn plant. Gallwn ond edrych ar gwynion yn erbyn yr awdurdod lleol ac, mewn rhai amgylchiadau, ar berfformiad gweithwyr iechyd proffesiynol.
Gwybodaeth bellach
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Weithdrefnau Diogelu Cymru yn https: /www.childreninwales.org.uk/safeguarding/
Efallai y byddech hefyd yn gallu cael cyngor a chymorth gan Grŵp Hawliau’r Teulu, sy’n darparu gwasanaeth dros Gymru a Lloegr ac sy’n cynghori rhieni ac aelodau eraill o’r teulu pan fo angen gwasanaethau gofal cymdeithasol efallai ar eu plant.
Gallwch eu ffonio ar 0808 801 0366 neu ymweld â’u gwefan: https: /www.frg.org.uk/
Comisiynydd Plant Cymru: Mae’r Comisiynydd Plant yn darparu cymorth a chefnogaeth i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed yng Nghymru, neu hyd at 21 os ydynt wedi bod mewn gofal neu hyd at 25 os ydynt wedi bod mewn gofal ac yn dal i fod mewn addysg.
01792 765600 neu 0808 801 100 (rhadffôn)
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ ombwdsmon.cymru