Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Pencoed)
Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg / y Panel Ymgynghorol
Ynglŷn â’r rôl
A hoffech helpu’r Ombwdsmon i gyflawni ei gweledigaeth i unioni pethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ac i ysgogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny?
Rydym yn chwilio i benodi Aelod(au) Annibynnol i ymuno â’n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg neu‘r Panel Ymgynghorol (y Panel).
Mae’r rhain yn benodiadau allweddol sy’n sail i’n llywodraethu rhagorol. Rhaid i chi fod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a gallu cefnogi a herio’r Ombwdsmon.
Dylech allu dangos tystiolaeth o’ch gallu i ddylanwadu ar sefydliadau ac unigolion, ac ymgysylltu â nhw, ar lefel uchel i hyrwyddo llywodraethu da a newid cadarnhaol.
Rhaid i chi feddu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da a gallu dehongli data cymhleth. Dylech fod â dealltwriaeth dda o wasanaethau cyhoeddus Cymru a byddai hefyd yn ddymunol pe bai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o rôl yr Ombwdsmon.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os oes gennych arbenigedd/profiad yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
- Sector yr Ombwdsmon
- Cyfraith
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cyllid, archwilio neu reoli risg
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a’r Panel yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Caiff cyfradd ddyddiol o £300 ei dalu i Aelodau, gyda thâl ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a fynychir y tu hwnt i ddyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a’r Gymraeg
Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal a chynhwysol ac rydym am wneud ein gweithlu a’n strwythurau llywodraethu yn fwy amrywiol.
Rydym yn croesawu ac yn annog yn arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a phobl anabl. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal cynrychiolaeth dda o fenywod yn ein sefydliad ac yn ein rolau llywodraethu.
Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg yn ein gwaith ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn Saesneg.
Ar gyfer y rôl hon, nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol, ond maent yn ddymunol.
Sut i ymgeisio
Pan fyddwch yn ymgeisio, gwnewch hi’n glir pa rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.
Amserlen
Rhaid i chi ymgeisio erbyn hanner dydd, 15 Gorffennaf 2024. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a fydd yn cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad hwn.
Llunnir y rhestr fer ar 23 a 24 Gorffennaf 2024.
Cynhelir cyfweliadau yn swyddfeydd OGCC ar 18 a 19 Medi 2024.
Ansicr a ddylech ymgeisio?
Byddwn yn cynnal sesiynau anffurfiol ar-lein i roi cyfle i chi ddeall yn well ein rôl a’n sefydliad ac a yw dod yn aelod annibynnol yn addas i chi. I gofrestru, dilynwch y dolenni isod:
- 3 Gorffennaf, 16:00-16:30: cliciwch yma
- 9 Gorffennaf, 11:00-11:30: cliciwch yma
Yn ogystal, os hoffech drafod yn anffurfiol gyda’r Ombwdsmon am y rôl, e-bostiwch recriwtio@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 01656 644214 a gwnawn gysylltu â chi gyda dyddiad ac amser addas.
Disgrifiad Rôl a Manyleb Person