- Cyflog
- £49.50 to £57.75 yr awr (sesiynol)
Rydym yn awyddus i ddod o hyd i nifer o gynghorwyr, ar sail sesiynol, i roi cyngor clinigol i’r Ombwdsmon.
Bydd y rheini sy’n cael eu dewis yn uwch glinigwyr profiadol yn eu maes a byddant yn gallu rhoi sylwadau awdurdodol ar y modd y mae gofal a thriniaeth wedi cael eu darparu. Mae profiad blaenorol o gynnal adolygiadau ac o ddarparu adroddiadau ysgrifenedig sy’n addas ar gyfer darllenwyr lleyg yn ddymunol. Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn gallu asesu gwybodaeth gymhleth a chynhwysfawr, gan feirniadu pan fydd angen a chynnig awgrymiadau ar sut i wella gwasanaeth.
Bydd y cynghorwyr sy’n rhoi cyngor i’r Ombwdsmon wedi ymgymryd ag ymarfer clinigol y GIG yn ystod y 12 mis diwethaf neu wedi cynnal arolwg neu ymgymryd â swyddogaeth reoleiddio mewn perthynas â’r GIG, ac mae’n rhaid iddynt fod yn aelodau llawn o gorff proffesiynol perthnasol.
Croesewir ymadroddion o ddiddordeb o bob arbenigedd, gan fod y galw yn newid yn aml. Fodd bynnag, mae’r Ombwdsmon yn chwilio’n benodol am geisiadau o’r meysydd canlynol:
• Dermatolegydd Ymgynghorol
• Niwrolegydd Ymgynghorol
• Offthalmolegydd Ymgynghorol
• Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol
• Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol (Aelod Uchaf ac Isaf)
(*Sylwch nad oes gennym unrhyw swyddi gwag ar gyfer Cynghorwyr Nyrsio ar hyn o bryd)
Ceir rhagor o fanylion ynghylch sut mae gwneud cais am rôl Cynghorydd gyda’r Ombwdsmon yn y ddogfen Nodiadau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb sydd ynghlwm. Byddwn yn dewis ar sail profiad a sgiliau perthnasol.
Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.